AMDANON NI

rhestr stoc

newyddion

GWASANAETH

Croeso i'n gwefan

Emyr Evans yw un or Prif Gyflenwyr Peiriannau Amaethyddol yng Ngogledd Cymru gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y maes gwerthu tractors a pheiriannau newydd ac ail-law.

peiriannau newydd

Rydym yn falch o gynnig cynnyrch gan enwau blaenllaw’r diwydiant fel Massey Ferguson, JCB, Fendt, McHale, Pottinger a Bailey. Mae gennym stoc eang o Dractors, Telehandlers, Trelars ac ystod o beiriannau ar ddangos yn Ngaerwen a Dinbych.

I ddarganfod mwy am y peiriannau Newydd yr ydym yn gadw mewn stoc, ewch i’n Rhestr Stoc uchod neu ewch i dudalen y Gwneuthurwyr i weld pa frandiau eraill rydym yn gysylltiedig â hwy.

peiriannau ail-law

Rydym yn un o’r stocwyr mwyaf o dractors a pheiriannau amaethyddol yn y Gogledd Orllewin ac mae bob amser ddewis helaeth o offer o ansawdd i ddewis ohonynt. Mae gennym ddetholiad gwych o dractors Massey Ferguson o bob oed mewn stoc.

Sefydlwyd y busnes ar brynu a gwerthu tractors ail-law ac mae’n dal i fod yn rhan fawr o’r busnes heddiw. Mae’r rhan fwyaf o’r tractors a’r peiriannau ail-law yn cael eu gwasanaethu a’u gwirio yn ein gweithdai ac yn aml yn cael eu gwerthu gyda gwarant. Mae croeso i ymholiadau masnach ac allforio hefyd, mae cyfleusterau danfon a llwytho ar gael o’r ddau ddepo.

Cysylltwch â ni os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, byddwn hefyd yn falch o brisio neu brynu unrhyw dractors a pheiriannau yr hoffwch ei werthu.

darnau

Rydym yn stocio ac yn cyflenwi darnau ar gyfer ein holl prif frandiau. Mae’r ddwy ddepo yn stocio llawer iawn o rannau ac ynghyd â gwybodaeth a phrofiad helaeth ein staff, ein nod yw darparu’r rhan cywir, y tro cyntaf i gael eich offer yn nol mewn gwaith mor fuan a phosib. Mae unrhyw ddarn nad yw mewn stoc ar gael erbyn y diwrnod canlynol gan y mwyafrif o’n cyflenwyr.

Yn ogystal â rhannau ar gyfer cynnyrch ein prif frandiau, rydym hefyd yn stocio ystod o olewyddion, darnau ar gyfer hen dractorau, paent a nwyddau amrywiol syn ymwneud a’r Byd Amaeth. Mae gennym hefyd y cyfarpar i wneud pibellau hydrolig yn y ddau safle.

I ddarganfod mwy am ein cynnigion cyfredol, ewch i’n tudalen darnau uchod.

gwasanaeth

Mae gennym dîm o dechnegwyr gwasanaeth ymroddedig sydd wedi’u hyfforddi gyda mynediad at yr holl wybodaeth a thechnoleg ddiweddaraf i leihau amser segur eich peiriant. Gellir gwneud gwaith yn ein gweithdai â chyfarpar llawn neu ar eich safle o’n faniau gwasanaeth. Mae’r technegwyr yn cael eu hyfforddi’n rheolaidd i gadw fyny â’r datblygiadau diweddaraf gan ein Cyflenwyr.

Gall ein hadran wasanaeth ddarparu –

Gwasanaeth ac Atgyweirio ar y safle neu yn y Gweithdy
Prawf Dynomomedr gydag Allbrintiau
Amcangyfrifon ac Atgyweirio Yswiriant
Prawf LOLER ar gyfer unrhyw beiriant llwytho
Samplu Tanwydd ac Olew
Gwarant Estynedig a Phecynnau Gwarant Gwasanaeth