Sefydlodd Emyr Evans y busnes yn 1986 o’r fferm deuluol ym Mhentrefoelas. Masnachu mewn tractors ail-law hyd nes cael gafael ar y ddelwriaeth Massey Ferguson ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd yn 1996 pan agorwyd depo yng Ngaerwen. Yn 2002 estynnwyd yr ardal i gynnwys Gogledd Cymru gyfan hyd at ffiniau Swydd Gaer lle agorwyd yr ail ddepo yn Ninbych.
Datblygodd y Cwmni dros y blynyddoedd trwy ychwanegu brandiau amaethyddol eraill sydd nawr yn cynnwys Massey Ferguson, JCB, Fendt, McHale, Pottinger a Bailey.
Heddiw, mae’r Cwmni yn dal i fod yn fusnes teuluol, mae’r ddwy ddepo yn cael eu rhedeg gan y meibion, Gwynedd a Berwyn, gan gynnig ystod enfawr o beiriannau ac offer newydd ac un o’r detholiad mwyaf o dractorau, offer a pheiriannau ail-law yn yr ardal. Mae’r busnes craidd o brynu a gwerthu tractorau ail-law wedi parhau i fod yn rhan sylweddol o’r busnes.
Mae’r Cwmni wedi bod yn flaenllaw yn Ngogledd Cymru ers ymgymeryd â Massey Ferguson yn 1996 gan ennill gwobrau am y gyfran orau o farchnad yn y Wlad, yn ogystal, mae’r gwerthiant ail-law wedi tyfu gyda tractors a pheiriannau o ansawdd yn cael eu gwerthu ledled y wlad ac yn wir i bob cwr o’r byd.
Nod y Cwmni bob amser oedd darparu cynhyrch o safon gyda gwasanaeth o safon i bob Cwsmer ac rydym wedi buddsoddi’n helaeth dros y blynyddoedd i barhau i gyflawni’r hyn.